Eseciel 13:14-20 BNET

14 Bydda i'n chwalu'r wal wnaethoch chi ei pheintio. Fydd dim ohoni'n sefyll. A pan fydd hi'n syrthio, byddwch chithau'n cael eich dinistrio gyda hi, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

15 Dw i'n mynd i dywallt hynny o ddigofaint sydd gen i ar y wal, ac ar y rhai fuodd yn ei pheintio. Ac wedyn bydda i'n dweud, “Dyna ni, mae'r wal wedi mynd, a'r peintwyr hefyd –

16 sef y proffwydi yna yn Israel oedd yn proffwydo am Jerwsalem ac yn dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad oedd pethau'n iawn o gwbl.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.’

17 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi at y merched hynny sy'n proffwydo dim byd ond ffrwyth eu dychymyg eu hunain. Proffwyda yn eu herbyn nhw,

18 a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae'r merched yna sy'n gwnïo breichledau hud i'w gwisgo ar yr arddwrn, a sgarffiau hud i'w gwisgo ar y pen. Eu hunig fwriad ydy trapio pobl! Ydych chi'n meddwl y cewch chi drapio fy mhobl i ac wedyn llwyddo i ddianc eich hunain?

19 Dych chi wedi gwneud i bobl droi cefn arna i am lond dwrn o haidd ac ychydig dameidiau o fara. Drwy ddweud celwydd wrth fy mhobl, sy'n mwynhau gwrando ar gelwydd, dych chi wedi lladd pobl ddylai fod wedi cael byw, a chynnig bywyd i'r rhai ddylai farw!

20 “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Deallwch chi fy mod i yn erbyn y breichledau hud dych chi'n eu defnyddio i drapio pobl fel dal adar. Bydda i'n eu rhwygo nhw oddi ar eich breichiau chi, a gollwng y bobl dych chi'n ceisio eu dal yn rhydd.