14 Roeddet ti'n enwog drwy'r byd am dy harddwch. Roeddet ti'n berffaith, am fy mod i wedi rhoi popeth i dy wneud di mor hardd,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
15 “‘Ond aeth y cwbl i dy ben di. Dyma ti'n defnyddio dy enwogrwydd i ddechrau cysgu o gwmpas. Roeddet ti fel putain yn cynnig dy gorff i bwy bynnag oedd yn pasio heibio. Gallai unrhyw un dy gael di.
16 Roeddet ti'n defnyddio dy ddillad hardd i addurno allorau paganaidd, ac yn gorwedd yno i buteinio! Mae'r peth yn anhygoel!
17 A dyma ti'n cymryd dy dlysau hardd o aur ac arian i wneud delwau gwrywaidd anweddus a'u haddoli nhw yn fy lle i.
18 Wedyn cymryd y defnydd wedi ei frodio i'w haddurno nhw, a chyflwyno fy olew a'm harogldarth i iddyn nhw.
19 Roeddet ti hyd yn oed yn offrymu iddyn nhw y bwyd roeddwn i wedi ei roi i ti – bwyd hyfryd oedd wedi ei baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Ie, dyna'n union ddigwyddodd!’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
20 “‘Roeddet ti hyd yn oed yn aberthu dy blant, yn fechgyn a merched, fel bwyd i dy eilun-dduwiau! Oedd dy buteindra ddim yn ddigon?