2 “Ddyn, dw i eisiau i ti wneud i Jerwsalem wynebu'r ffaith ei bod wedi gwneud pethau ffiaidd.
3 Dywed fel hyn, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Jerwsalem: I'r Canaaneaid paganaidd rwyt ti'n perthyn go iawn! Ti wedi dy eni a dy fagu gyda nhw! Roedd dy dad yn Amoriad a dy fam yn Hethiad.
4 Pan gest ti dy eni gafodd dy linyn bogail mo'i dorri. Wnaeth neb dy olchi, rhwbio halen ar dy gorff, na lapio cadachau geni amdanat ti.
5 Doedd neb yn poeni amdanat ti; neb yn teimlo trueni drosot ti. Cest dy daflu allan i farw. Doedd gan neb dy eisiau di.
6 “‘Yna dyma fi'n dod heibio ac yn dy weld di'n gorwedd ar lawr yn cicio. Ac wrth i ti orwedd yna yn dy waed, dyma fi'n dweud, “Rhaid i ti fyw!”
7 Dyma fi'n gwneud i ti dyfu a llwyddo, fel cnwd mewn cae. Ac yn wir, dyma ti yn tyfu ac yn aeddfedu yn wraig ifanc hardd gyda bronnau llawn a gwallt hir hyfryd. Ond roeddet ti'n dal yn gwbl noeth.
8 “‘Yna dyma fi'n dod heibio eto a gweld dy fod yn ddigon hen i gael rhyw. Dyma fi'n estyn ymyl fy mantell dros dy gorff noeth di. Dyma fi'n addo bod yn ffyddlon i ti, ac yn dy briodi di. Fy ngwraig i oeddet ti.’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.