24 ti wedi codi stondin a phabell i ti dy hun ar bob stryd!
25 Ti'n codi dy stondin a chywilyddio dy hun drwy ledu dy goesau i bwy bynnag oedd yn pasio heibio!
26 Roeddet ti'n puteinio gyda dy gymdogion yr Eifftiaid, oedd bob amser yn barod i gael rhyw. Roeddet ti'n mynd o ddrwg i waeth ac yn fy ngwylltio i'n lân.
27 Felly dyma fi'n dy daro di'n galed, ac yn cymryd tir oddi arnat ti. Dyma fi'n gadael i dy elynion, y Philistiaid, dy reibio di. Roedd y ffordd roeddet ti'n ymddwyn yn ddigon i godi embaras arnyn nhw hyd yn oed!
28 “‘Wedyn dyma ti'n rhoi dy hun i'r Asyriaid! Doeddet ti byth yn fodlon; byth wedi cael digon. Roedd gen ti eisiau mwy o hyd!
29 A dyma roi dy hun i wlad y masnachwyr, sef Babilon. Ond doedden nhw ddim yn dy fodloni di chwaith.
30 “‘Mae'n dangos mor wan wyt ti,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Doedd gen ti ddim cywilydd o gwbl, fel putain