53 “‘Ryw ddydd dw i'n mynd i adfer eu sefyllfa nhw, Sodom a Samaria. A bydda i'n adfer dy sefyllfa dithau hefyd,
54 i ti deimlo cywilydd go iawn am beth wnest ti, yn gwneud iddyn nhw deimlo'n eitha da!
55 Bydd dy chwiorydd, Sodom a Samaria a'u pobl, yn cael eu hadfer i'w safle blaenorol. A thithau yr un fath.
56 Roedd Sodom yn destun sbort gen ti pan oedd pethau'n mynd yn dda arnat ti,
57 cyn i dy ddrygioni di ddod i'r golwg. Bellach ti dy hun ydy'r testun sbort, gan bobl Edom a'i chymdogion y Philistiaid a phawb arall o dy gwmpas di.
58 Rhaid i ti dderbyn y canlyniadau am dy ymddygiad anweddus a'r holl bethau ffiaidd ti wedi eu gwneud, meddai'r ARGLWYDD.
59 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw i'n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti'n haeddu am gymryd dy lw yn ysgafn a torri'r ymrwymiad oedd rhyngon ni?