4 a thorri ei brigyn uchaf.Ei gario i ffwrdd i wlad masnachwyr,a'i blannu yn ninas y farchnad.
5 Cymerodd un o hadau'r wlada'i blannu mewn pridd da,yn sbrigyn wedi ei osod ar lan y dŵrfel coeden helygen.
6 Blagurodd, a throi yn winwyddenyn tyfu a lledu'n isel.Roedd ei gwreiddiau oddi tanodda'i changhennau'n ymestyn at yr eryr.Tyfodd ei changhennaua daeth dail ar ei brigau.
7 Ond roedd eryr mawr arall,gydag adenydd enfawra thrwch o blu hardd.A dyma'r winwyddenyn troi ei gwreiddiau at hwnnw,ac yn ymestyn ei changhennau atoi gael ei dyfrio ganddo.
8 Roedd wedi ei phlannu mewn pridd daar lan digonedd o ddŵr,i'w changhennau leduac i ffrwyth dyfu arni,yn winwydden hardd.’
9 Ond dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:‘Fydd hi'n llwyddo?Na – bydd yr eryr yn ei chodi o'r gwraidd,yn tynnu ei ffrwyth oddi arni,a'i gadael i bydru.Bydd ei dail ir yn gwywo.Fydd dim angen byddin fawr grefi dynnu ei gwreiddiau o'r pridd.
10 Ar ôl ei thrawsblannu, fydd hi'n llwyddo?Na – bydd gwynt poeth y dwyrain yn chwythua bydd hi'n crino'n llwyr.Bydd hi'n gwywo yn y tir lle tyfodd!’”