2 “Beth ydy'r dywediad yna dych chi'n ei ddefnyddio o hyd am wlad Israel,‘Mae'r rhieni wedi bwyta grawnwin surion,ond y plant sy'n diodde'r blas drwg.’?
3 Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd y dywediad yma ddim i'w glywed yn Israel eto.
4 Mae pob unigolyn yn atebol i mi – y rhieni a'r plant fel ei gilydd. Mae pob person yn marw am ei bechod ei hun.
5 “Meddyliwch am rywun sy'n gwneud beth sy'n iawn, ac yn ymddwyn yn gyfiawn ac yn deg.
6 Dydy e ddim yn mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd i fwyta o'r aberthau, nac yn addoli eilun-dduwiau Israel. Dydy e ddim wedi cysgu gyda gwraig rhywun arall, nac yn cael rhyw gyda gwraig pan mae'r misglwyf arni.
7 Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth.
8 Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog ar fenthyciad. Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn, ac mae bob amser yn onest ac yn deg wrth drin pobl eraill.