29 “Ond mae pobl Israel yn dal i gwyno, ‘Dydy hynny ddim yn iawn!’ Ai fi ydy'r un sydd ddim yn gwneud beth sy'n iawn, bobl Israel? Onid chi ydy'r rhai sydd ddim yn gwneud y peth iawn?
30 “Felly, bobl Israel, bydda i'n barnu pob un ohonoch chi ar sail sut ydych chi wedi byw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Trowch gefn ar eich gwrthryfel, a fydd eich pechod ddim yn eich dinistrio chi.
31 Stopiwch dynnu'n groes i mi, a chewch galon newydd ac ysbryd newydd! Pam ddylech chi ddewis marw, bobl Israel?
32 Dw i ddim yn mwynhau gweld unrhyw un yn marw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Felly trowch gefn ar y cwbl, a cewch fyw!”