7 Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth.
8 Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog ar fenthyciad. Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn, ac mae bob amser yn onest ac yn deg wrth drin pobl eraill.
9 Mae e'n gwneud beth dw i'n ddweud, ac yn cadw fy rheolau i. Dyna beth ydy byw bywyd da! Bydd person felly yn sicr o gael byw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
10 “Cymrwch wedyn fod mab y dyn yna'n troi allan i fod yn lleidr ac yn llofrudd. Mae'n gwneud y pethau drwg yma i gyd
11 (pethau wnaeth ei dad ddim un ohonyn nhw): Mae'n mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd ac yn bwyta o'r aberthau. Mae'n cysgu gyda gwraig rhywun arall.
12 Mae'n cam-drin pobl dlawd sydd mewn angen ac yn dwyn. Dydy e ddim yn talu'n ôl beth gafodd ei roi iddo'n ernes. Mae'n addoli eilun-dduwiau, ac yn gwneud pethau cwbl ffiaidd.
13 Ac mae'n cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciad. Fydd e'n cael byw? Na, dim o gwbl! Rhaid iddo farw am wneud pethau mor ffiaidd. Arno fe fydd y bai.