22 Ond dyma fi'n dal yn ôl. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i'n dod â nhw allan o'r Aifft.
23 Ond dyma fi'n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud y byddwn i'n eu gyrru nhw ar chwâl i'r cenhedloedd, a'u gwasgaru nhw drwy'r gwledydd i gyd.
24 Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel roeddwn i eisiau, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau'n dal i ddilyn yr eilunod!
25 Felly dyma fi'n gadael iddyn nhw ddilyn rheolau oedd ddim yn dda iddyn nhw a canllawiau oedd ddim yn rhoi bywyd go iawn.
26 Dyma fi'n gadael iddyn nhw lygru eu hunain gyda'r rhoddion roedden nhw'n ei cyflwyno i'w duwiau – roedden nhw'n llosgi eu plentyn cyntaf yn aberth! Dylen nhw fod wedi gweld mor erchyll oedd y fath beth. Ro'n i eisiau iddyn nhw wybod mai fi ydy'r ARGLWYDD.’
27 “Ddyn, dw i eisiau i ti fynd i siarad gyda phobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae eich hynafiaid wedi dal ati i ddangos dirmyg ata i a bod yn anffyddlon.
28 Roedden nhw wedi cael dod i'r wlad roeddwn i wedi ei haddo iddyn nhw. Ond y funud roedden nhw'n dod ar draws bryn uchel neu goeden ddeiliog, roedden nhw'n aberthu ac yn cyflwyno offrymau oedd yn fy nigio i. Roedden nhw'n llosgi arogldarth i'w duwiau ac yn tywallt offrymau o ddiod iddyn nhw.