32 “‘“Dŷn ni'n mynd i fod yr un fath â pawb arall,” meddech chi. “Fel pobl y gwledydd o'n cwmpas ni sy'n addoli duwiau o bren a charreg.” Ond fydd hynny byth yn digwydd.
33 Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘Fi fydd yn frenin arnoch chi, a bydda i'n tywallt fy llid, ac yn teyrnasu gyda nerth a chryfder rhyfeddol.
34 Bydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd, ac yn eich casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi eich gwasgaru. Ie, bydda i'n tywallt fy llid gyda nerth a chryfder rhyfeddol.
35 Bydda i'n dod â chi allan i anialwch y cenhedloedd, a bydd rhaid i chi wynebu cael eich barnu yno.
36 Yn union fel roedd rhaid i mi farnu eich hynafiaid yn anialwch yr Aifft, bydda i'n eich barnu chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
37 ‘Bydda i'n edrych ar bob un ohonoch chi yn ei dro wrth i chi basio dan fy ffon fugail, ac yn eich dal chi at amodau'r ymrwymiad rhyngon ni.
38 Bydda i'n cael gwared â phawb sy'n gwrthryfela a tynnu'n groes i mi. Byddan nhw yn cael dod allan o'r wlad maen nhw ynddi ar hyn o bryd, ond gân nhw ddim mynd yn ôl i wlad Israel! Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.