34 Bydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd, ac yn eich casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi eich gwasgaru. Ie, bydda i'n tywallt fy llid gyda nerth a chryfder rhyfeddol.
35 Bydda i'n dod â chi allan i anialwch y cenhedloedd, a bydd rhaid i chi wynebu cael eich barnu yno.
36 Yn union fel roedd rhaid i mi farnu eich hynafiaid yn anialwch yr Aifft, bydda i'n eich barnu chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
37 ‘Bydda i'n edrych ar bob un ohonoch chi yn ei dro wrth i chi basio dan fy ffon fugail, ac yn eich dal chi at amodau'r ymrwymiad rhyngon ni.
38 Bydda i'n cael gwared â phawb sy'n gwrthryfela a tynnu'n groes i mi. Byddan nhw yn cael dod allan o'r wlad maen nhw ynddi ar hyn o bryd, ond gân nhw ddim mynd yn ôl i wlad Israel! Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
39 “‘Bobl Israel, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi: “Ewch, bob un ohonoch chi – ewch i addoli'ch eilun-dduwiau! Ond wedyn, peidiwch sarhau fy enw sanctaidd i gyda'ch rhoddion a'ch eilunod.
40 Dim ond ar y mynydd dw i wedi ei gysegru – sef mynydd uchel Israel – y bydd pobl Israel yn fy addoli i, ie, pawb drwy'r wlad i gyd. Bydda i'n eu derbyn nhw yno. Dyna ble dych chi i ddod â chyflwyno rhoddion ac offrymau ac aberthau sanctaidd i mi.