4 “Ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn, a'u cael nhw i wynebu'r pethau ffiaidd wnaeth eu hynafiaid?
5 Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan ddewisais Israel a cyflwyno fy hun i ddisgynyddion Jacob, dyma fi'n tyngu llw ac yn addo iddyn nhw, “Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.”
6 Dyma fi'n addo eu rhyddhau nhw o wlad yr Aifft, a'u harwain nhw i wlad roeddwn i wedi ei dewis yn arbennig ar eu cyfer. Tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd!
7 Dywedais, “Rhaid i chi gael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd dych chi'n eu haddoli. Stopiwch lygru'ch hunain gydag eilunod yr Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.”
8 Ond roedden nhw'n tynnu'n groes i mi, ac yn gwrthod gwrando. Wnaethon nhw ddim cael gwared â'i heilun-dduwiau ffiaidd, na throi cefn ar eilunod yr Aifft. Dyma fi'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw, a dangos faint roeddwn i wedi gwylltio pan oedden nhw'n dal yn yr Aifft,
9 ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl o'u cwmpas nhw. Roeddwn i am ddangos sut un oeddwn i drwy ddod â nhw allan o'r Aifft.
10 “‘A dyna wnes i. Dod â nhw allan o wlad yr Aifft, a'i harwain nhw i'r anialwch.