40 Dim ond ar y mynydd dw i wedi ei gysegru – sef mynydd uchel Israel – y bydd pobl Israel yn fy addoli i, ie, pawb drwy'r wlad i gyd. Bydda i'n eu derbyn nhw yno. Dyna ble dych chi i ddod â chyflwyno rhoddion ac offrymau ac aberthau sanctaidd i mi.
41 Pan fydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd a'ch casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi eich gwasgaru, cewch eich derbyn gen i fel arogl hyfryd eich aberthau. A bydd pobl y gwledydd yn gweld mai fi ydy'r Duw sanctaidd sydd gyda chi.
42 Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, pan fydda i'n gadael i chi fynd yn ôl i wlad Israel, sef y wlad wnes i addo ei rhoi i'ch hynafiaid.
43 Byddwch chi'n edrych yn ôl ac yn gweld beth wnaethoch chi i lygru'ch hunain. Bydd gynnoch chi gywilydd eich bod wedi gwneud pethau mor ofnadwy.
44 A byddwch chi'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, am fy mod i wedi delio gyda chi mewn ffordd oedd yn diogelu fy enw da i, a dim fel roeddech chi'n ei haeddu am fod mor ddrwg a gwneud pethau mor ffiaidd!”’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
45 Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
46 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu'r de, a pregethu yn erbyn y de drwy gyhoeddi proffwydoliaeth yn erbyn coedwig y Negef.