46 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu'r de, a pregethu yn erbyn y de drwy gyhoeddi proffwydoliaeth yn erbyn coedwig y Negef.
47 Dywed wrth goedwig y Negef, ‘Gwranda ar neges yr ARGLWYDD i ti. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gynnau tân yn dy ganol, a bydd yn llosgi'r coed gwyrdd yn ogystal â'r coed sydd wedi crino. Fydd y fflamau tanbaid ddim yn diffodd, a bydd y tir i gyd, o'r de i'r gogledd, wedi ei losgi'n ddu.
48 Bydd pawb yn gweld mai fi, yr ARGLWYDD ddechreuodd y tân, ac na fydd yn diffodd.’”
49 “O ARGLWYDD, fy meistr!” meddwn i, “Mae pawb yn cwyno fod beth dw i'n ddweud yn dim ond darluniau diystyr!”