9 ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl o'u cwmpas nhw. Roeddwn i am ddangos sut un oeddwn i drwy ddod â nhw allan o'r Aifft.
10 “‘A dyna wnes i. Dod â nhw allan o wlad yr Aifft, a'i harwain nhw i'r anialwch.
11 Rhois reolau iddyn nhw, a dweud sut roeddwn i eisiau iddyn nhw fyw. Byddai'r rhai fyddai'n gwneud y pethau yma yn cael byw go iawn.
12 Dyma fi'n rhoi ‛Sabothau‛ iddyn nhw hefyd, i'w hatgoffa nhw o'r berthynas rhyngon ni. Roeddwn i eisiau iddyn nhw ddeall fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi eu gwneud nhw'n wahanol, yn bobl sbesial i mi.
13 “‘Ond dyma bobl Israel yn gwrthryfela yn yr anialwch. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel ron i eisiau. (Byddai'r rhai sy'n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn!) A dyma nhw'n diystyru'r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Ro'n i'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a'r lle; eu dinistrio nhw'n llwyr yn yr anialwch!
14 Ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i'n dod â nhw allan o'r Aifft.
15 Ond dyma fi'n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud na fyddwn i'n eu harwain nhw i'r wlad oedd gen i ar eu cyfer nhw – tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd!