21 Dw i'n mynd i'ch casglu chi yno, a'ch toddi chi gyda tân fy ffyrnigrwydd!
22 Byddwch chi'n cael eich toddi fel arian mewn ffwrnais. Byddwch chi'n sylweddoli fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tywallt fy llid ffyrnig arnoch chi!’”
23 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
24 “Ddyn, dywed wrth Jerwsalem, ‘Pan fydda i'n dangos fy llid fydd dim glaw na hyd yn oed cawod ysgafn yn disgyn ar dy dir.’
25 Mae ei harweinwyr yn cynllwynio fel llewod sy'n rhuo wrth rwygo'r ysglyfaeth. Maen nhw'n dwyn arian a phopeth gwerthfawr oddi ar bobl, ac yn gadael llawer o wragedd yn weddwon.
26 Mae'r offeiriaid yn torri fy nghyfraith ac yn halogi'r pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dŷn nhw ddim yn gwahaniaethu rhwng y cysegredig a'r cyffredin, na rhwng y glân a'r aflan. Maen nhw'n diystyru'r Sabothau rois i iddyn nhw. Maen nhw'n pardduo fy enw i!
27 Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn rheibio – yn tywallt gwaed a dinistrio bywydau – er mwyn elw anonest.