1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2 “Ddyn, roedd yna ddwy wraig oedd yn ferched i'r un fam.
3 Pan oedden nhw'n ifanc iawn dyma nhw'n dechrau actio fel puteiniaid yn yr Aifft. Roedden nhw'n gadael i ddynion afael yn eu bronnau ac anwesu eu cyrff.
4 Enw'r chwaer hynaf oedd Ohola, ac enw'r ifancaf oedd Oholiba. Roeddwn i wedi eu priodi nhw, a dyma nhw'n cael plant i mi. (Samaria ydy Ohola, a Jerwsalem ydy Oholiba.)