10 Dyma nhw'n rhwygo ei dillad oddi arni, cymryd ei meibion a'i merched yn gaethion ac yna ei lladd hi. Roedd ei henw'n warth. Roedd y merched i gyd yn meddwl ei bod hi wedi cael beth roedd yn ei haeddu.
11 “Er fod Oholiba, ei chwaer, wedi gweld hyn i gyd, dyma hi'n ymddwyn yn waeth fyth! Roedd hi'n hollol wyllt – fel hwren hollol lac ei moesau!
12 Roedd hi'n ysu am gael rhyw gyda'r Asyriaid; swyddogion a chapteiniaid, milwyr yn eu lifrai gwych, a marchogion yn y cafalri – dynion ifanc golygus i gyd.
13 Ro'n i'n gweld ei bod wedi halogi ei hun, a mynd yr un ffordd â'i chwaer.
14 “Ond aeth hi ymlaen i wneud pethau llawer gwaeth na'i chwaer! Dyma hi'n gweld lluniau o ddynion Babilon wedi eu cerfio'n goch llachar ar waliau.
15 Roedd pob un gyda sash am ei ganol, a twrban hardd ar ei ben. Roedden nhw'n edrych fel swyddogion milwrol; dynion Babilon, o'r wlad oedd yn cael ei galw yn Caldea.
16 Pan welodd hi'r lluniau roedd hi'n ysu i'w cael nhw, a dyma hi'n anfon gwahoddiad iddyn nhw ddod ati.