3 Pan oedden nhw'n ifanc iawn dyma nhw'n dechrau actio fel puteiniaid yn yr Aifft. Roedden nhw'n gadael i ddynion afael yn eu bronnau ac anwesu eu cyrff.
4 Enw'r chwaer hynaf oedd Ohola, ac enw'r ifancaf oedd Oholiba. Roeddwn i wedi eu priodi nhw, a dyma nhw'n cael plant i mi. (Samaria ydy Ohola, a Jerwsalem ydy Oholiba.)
5 “Roedd Ohola yn actio fel putain pan oedd hi hefo fi, ac yn ysu am gael rhyw gyda'i chariadon – swyddogion milwrol Asyria
6 yn eu lifrai porffor, capteiniaid a swyddogion eraill; dynion golygus i gyd, yn farchogion yn y cafalri.
7 Roedd hi'n rhoi ei hun iddyn nhw – dynion ifanc gorau Asyria i gyd. Roedd hi'n halogi ei hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw ac yn rhoi ei hun iddyn nhw.
8 Roedd hi'n dal ati i buteinio fel roedd hi'n gwneud pan yn ferch ifanc yn yr Aifft, yn gadael i ddynion gael rhyw gyda hi, anwesu ei bronnau, a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau.
9 Felly dyma fi'n gadael i'w chariadon, yr Asyriaid, ei chael hi – dyna oedd hi eisiau.