31 Ti wedi mynd yr un ffordd â dy chwaer, a bydd cwpan y farn yfodd hi ohono yn cael ei basio ymlaen i ti.
32 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Byddi'n yfed o gwpan dy chwaer –cwpan fawr, ddofn,yn llawn i'r ymylon(a bydd pawb yn gwneud hwyl ar dy ben.)
33 Byddi'n hollol feddw ac yn y felan:Mae cwpan dy chwaer, Samaria,yn gwpan dychryn a dinistr.
34 Byddi'n yfed pob diferyncyn ei falu'n ddarnauac yna rhwygo dy fronnau.“Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.
35 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod ti wedi anghofio amdana i, a troi dy gefn yn llwyr arna i, bydd rhaid i ti wynebu canlyniadau'r ymddygiad anweddus a'r puteinio.”
36 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn ar Ohola ac Oholiba? Dywed wrthyn nhw mor ffiaidd maen nhw wedi bod!
37 Maen nhw wedi godinebu a thywallt gwaed. Maen nhw wedi godinebu drwy addoli eilun-dduwiau, a thywallt gwaed eu plant drwy eu llosgi'n aberth.