33 Byddi'n hollol feddw ac yn y felan:Mae cwpan dy chwaer, Samaria,yn gwpan dychryn a dinistr.
34 Byddi'n yfed pob diferyncyn ei falu'n ddarnauac yna rhwygo dy fronnau.“Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.
35 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod ti wedi anghofio amdana i, a troi dy gefn yn llwyr arna i, bydd rhaid i ti wynebu canlyniadau'r ymddygiad anweddus a'r puteinio.”
36 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn ar Ohola ac Oholiba? Dywed wrthyn nhw mor ffiaidd maen nhw wedi bod!
37 Maen nhw wedi godinebu a thywallt gwaed. Maen nhw wedi godinebu drwy addoli eilun-dduwiau, a thywallt gwaed eu plant drwy eu llosgi'n aberth.
38 Ar ben y cwbl maen nhw wedi halogi'r cysegr a diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw.
39 Yr un diwrnod ac roedden nhw'n lladd eu meibion i'r eilun-dduwiau, roedden nhw'n dod i mewn i'r deml i addoli! Halogi'r cysegr, fy nhŷ i!