42 Roedd sŵn tyrfa o bobl yn diota a chael amser da gyda ti – dynion o bob man, hyd yn oed Sabeaid o'r anialwch. Roedden nhw'n rhoi breichledau i'r chwiorydd, a tiaras hardd i'w gwisgo ar eu pennau.
43 “A dyma fi'n dweud, ‘Os ydyn nhw wir eisiau putain fel hon sydd wedi hen ddarfod amdani, cân nhw gario ymlaen!’
44 A dyna ddigwyddodd. Dyma nhw'n mynd at y ddwy, Ohola ac Oholiba, i gael rhyw. Merched hollol wyllt ac anfoesol!
45 Ond bydd dynion cyfiawn yn eu barnu nhw, a rhoi'r gosb maen nhw'n ei haeddu am odinebu a thywallt gwaed. Dyna'n hollol maen nhw'n euog o'i wneud.
46 “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dewch â byddin yn eu herbyn nhw i greu dychryn ac i ddwyn oddi arnyn nhw!
47 Bydd y fyddin yn eu lladd drwy daflu cerrig atyn nhw, ac yn eu taro nhw i lawr gyda chleddyfau. Bydd yn lladd eu plant nhw ac yn llosgi eu tai!
48 Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl ymddygiad anweddus yma, er mwyn i wragedd eraill ddysgu gwers a peidio gwneud yr un peth.