11 Yna rhoi'r crochan gwag yn ôl ar y tân golosg, a'i boethi nes bydd y copr yn gloywi'n chwilboeth, yr amhuredd o'i fewn yn toddi a'r budreddi yn cael ei losgi i ffwrdd.
12 Ond mae'r holl ymdrech i ddim pwrpas – mae'r budreddi yn dal yna! Rhaid ei losgi!
13 “‘Yr amhuredd ydy dy ymddygiad anweddus di. Dw i wedi ceisio dy lanhau di, ond i ddim pwrpas. Fyddi di ddim yn lân eto nes bydda i wedi tywallt fy llid i gyd arnat ti.
14 Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! Mae'r amser wedi dod i mi wneud rhywbeth! Does dim troi'n ôl. Fydda i'n dangos dim piti, nac yn teimlo'n sori am y peth. Dw i'n mynd i dy gosbi di am y cwbl rwyt ti wedi ei wneud, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr.’”
15 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
16 “Ddyn, dw i'n gwybod fod hyn yn mynd i fod yn ergyd galed, ond dw i'n mynd i gymryd y wraig wyt ti wedi gwirioni arni oddi arnat ti. Ond paid galaru amdani. Paid wylo. Paid colli dagrau.
17 Byddi'n drist, ond cadwa'r peth i ti dy hun. Paid galaru'n gyhoeddus. Rho dwrban ar dy ben a sandalau ar dy draed. Paid cuddio hanner isaf dy wyneb, na derbyn bwyd gan bobl sy'n dod atat ti i gydymdeimlo.”