2 “Ddyn, dw i eisiau i ti ysgrifennu dyddiad heddiw i lawr. Heddiw ydy'r union ddiwrnod mae brenin Babilon wedi dechrau ymosod ar Jerwsalem.
3 Rhanna'r darlun yma gyda rebeliaid anufudd Israel: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Rho'r crochan ar y tân,a'i lenwi gyda dŵr.
4 Rho ddarnau o gig ynddo,y darnau gorau – y goes a'r ysgwydd.Ei lenwi gyda'r esgyrn da
5 o'r anifeiliaid gorau.Rho bentwr o goed tân oddi tano,a berwi'r cig a'i goginioa'r esgyrn yn dal ynddo.
6 “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed – y crochan sy'n llawn budreddi – budreddi sy'n dal ynddo! Tynnwch y darnau allan bob yn un. Sdim ots am y drefn.
7 Mae'r gwaed dywalltwyd yn dal ynddi. Cafodd ei dywallt ar garreg i bawb ei weld, yn lle ei dywallt ar lawr i'r pridd ei lyncu.
8 Felly dw i'n mynd i dywallt ei gwaed hi ar garreg agored, er mwyn i bawb weld faint dw i wedi digio, ac mai fi sy'n dial arni hi!