6 “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed – y crochan sy'n llawn budreddi – budreddi sy'n dal ynddo! Tynnwch y darnau allan bob yn un. Sdim ots am y drefn.
7 Mae'r gwaed dywalltwyd yn dal ynddi. Cafodd ei dywallt ar garreg i bawb ei weld, yn lle ei dywallt ar lawr i'r pridd ei lyncu.
8 Felly dw i'n mynd i dywallt ei gwaed hi ar garreg agored, er mwyn i bawb weld faint dw i wedi digio, ac mai fi sy'n dial arni hi!
9 “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed! Dw i'n mynd i gasglu pentwr o goed;
10 digon o goed i wneud tanllwyth o dân! Coginio'r cig yn dda gyda digon o sbeisys. Wedyn gwagio'r crochan a llosgi'r esgyrn.
11 Yna rhoi'r crochan gwag yn ôl ar y tân golosg, a'i boethi nes bydd y copr yn gloywi'n chwilboeth, yr amhuredd o'i fewn yn toddi a'r budreddi yn cael ei losgi i ffwrdd.
12 Ond mae'r holl ymdrech i ddim pwrpas – mae'r budreddi yn dal yna! Rhaid ei losgi!