1 Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:
2 “Ddyn, dyma mae Tyrus wedi bod yn ei ddweud am Jerwsalem:‘Hwrê! Mae'r giâti'r ddinas fasnach ryngwladolwedi ei dryllio!Bydda i'n cael ei busnes!Dw i'n mynd i fod yn gyfoethog!Ydy, mae hi wedi'i dinistrio.’
3 “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch eich hunain! Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! O, Tyrus! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod yn dy erbyn di fel tonnau gwyllt y môr.
4 Byddan nhw'n dinistrio dy waliau ac yn bwrw'r tyrau amddiffynnol i lawr.’ Bydda i'n clirio'r rwbel oddi arni ac yn gadael dim ar ôl ond craig noeth.
5 Bydd fel ynys yng nghanol y môr, yn dda i ddim ond i daenu rhwydau pysgota. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. Bydd byddinoedd o wledydd eraill yn concro Tyrus,
6 a bydd y pentrefi yn yr ardal o'i chwmpas yn cael eu dinistrio yn y rhyfel. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.