11 Bydd carnau'r ceffylau yn sathru dy strydoedd. Bydd dy bobl yn cael eu lladd gan y cleddyf, a bydd dy golofnau enwog yn cael eu bwrw i lawr.
12 Byddan nhw'n dwyn dy gyfoeth a dy eiddo i gyd. Byddan nhw'n bwrw dy waliau i lawr ac yn dinistrio dy dai gwych. Bydd y cerrig a'r coed a'r rwbel i gyd yn cael ei daflu i'r môr.
13 Bydda i'n rhoi taw ar dy ganeuon di, a fydd neb yn clywed sŵn dy delynau byth eto.
14 Fydd dim ar ôl ond craig noeth. Fyddi di'n ddim byd ond lle i daenu rhwydau pysgota. Gei di byth dy adeiladu eto. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’
15 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Tyrus: ‘Bydd yr arfordir cyfan yn crynu pan fyddi di'n syrthio, a sŵn dy bobl wedi eu hanafu yn griddfan wedi'r lladdfa.
16 Bydd llywodraethwyr yr arfordir i gyd yn camu i lawr o'i gorseddau. Byddan nhw'n tynnu eu clogynnau brenhinol a'u dillad hardd. Dychryn fydd yr unig wisg amdanyn nhw. Byddan nhw'n eistedd ar lawr yn crynu trwyddynt o achos beth fydd wedi digwydd i ti.
17 Byddan nhw'n canu'r gân yma o alar ar dy ôl:O ddinas enwog ar y môr,rwyt wedi dy ddinistrio!Ti oedd yn rheoli'r tonnau,gyda dy bobl yn codi dychrynar y ddynoliaeth gyfan.