18 Ond bellach mae'r arfordir yn crynuar ddydd dy gwymp.Mae'r ynysoedd i gyd mewn siocam dy fod wedi mynd.’
19 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydda i'n dy wneud di yn anialwch diffaith, fel trefi sy'n adfeilion gyda neb yn byw ynddyn nhw. Bydd fel tswnami, a tithau'n cael dy foddi dan donnau gwyllt y môr.
20 Byddi'n cael dy hun yn y Pwll – pwll marwolaeth; yn gorwedd yno gyda phobl sydd wedi marw ers talwm. Byddi'n adfeilion wedi dy gladdu yn nyfnder y ddaear. Fydd neb yn byw ynot ti, a fyddi di byth eto'n cael dy barchu ar dir y byw.
21 Bydd dy ddiwedd yn erchyll. Fydd dim sôn amdanat ti o hynny ymlaen. Bydd pobl yn chwilio amdanat ond yn methu dod o hyd i ti.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.