7 “Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch chi! Dw i'n dod â'r brenin Nebwchadnesar, yr un sy'n frenin ar frenhinoedd, i lawr o Babilon yn y gogledd, a bydd yn ymosod ar Tyrus. Bydd ganddo geffylau, cerbydau rhyfel, marchogion a byddin enfawr.
8 Bydd yn dinistrio'r pentrefi gwledig o dy gwmpas di. Wedyn bydd yn codi tyrau gwarchae a rampiau i ymosod arnat ti. Bydd llu o filwyr gyda'i tariannau yn dod yn dy erbyn di!
9 Bydd yn bwrw dy waliau gyda'i hyrddod rhyfel ac yn chwalu dy dyrau amddiffynnol gyda'i arfau haearn.
10 Bydd y llwch fydd yn cael ei godi gan yr holl geffylau rhyfel yn dy orchuddio di! Bydd sŵn y cafalri a'r holl wagenni a cherbydau rhyfel yn ddigon i ysgwyd dy waliau di. Bydd e'n dod i mewn trwy dy giatiau yn fuddugoliaethus ar ôl i'w fyddin dorri trwy'r waliau.
11 Bydd carnau'r ceffylau yn sathru dy strydoedd. Bydd dy bobl yn cael eu lladd gan y cleddyf, a bydd dy golofnau enwog yn cael eu bwrw i lawr.
12 Byddan nhw'n dwyn dy gyfoeth a dy eiddo i gyd. Byddan nhw'n bwrw dy waliau i lawr ac yn dinistrio dy dai gwych. Bydd y cerrig a'r coed a'r rwbel i gyd yn cael ei daflu i'r môr.
13 Bydda i'n rhoi taw ar dy ganeuon di, a fydd neb yn clywed sŵn dy delynau byth eto.