1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2 “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl Tyrus.
3 Dywed wrth Tyrus, sy'n eistedd wrth borthladdoedd, ac yn ganolfan fasnachol bwysig i weddill y byd: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:O Tyrus, rwyt yn brolio mai tiydy harddwch yn ei berffeithrwydd.
4 Gyda dy ffiniau yng nghanol y moroedd,cest dy lunio fel y llong berffaith –