18 Roedd Damascus yn delio gyda ti am fod gen ti gymaint o nwyddau ac am dy fod ti mor gyfoethog. Roedden nhw'n dod â gwin o Chelbon, gwlân o Sachar,
19 a casgenni o win o Isal. Haearn bwrw, powdr casia a sbeisiau persawrus hefyd.
20 Roedd Dedan yn cynnig eu carthenni cyfrwy.
21 Arabia a shîcs Cedar yn gwerthu ŵyn, hyrddod a geifr.
22 Masnachwyr Sheba a Raama yn cynnig eu perlysiau gorau, meini gwerthfawr o bob math ac aur.
23 Roedd Haran, Canne ac Eden, a masnachwyr Sheba, Ashŵr a Cilmad yn gwsmeriaid i ti hefyd,
24 yn cynnig dillad costus, defnydd porffor, brodwaith a charpedi amryliw wedi eu clymu a'u plethu'n dynn.