21 Arabia a shîcs Cedar yn gwerthu ŵyn, hyrddod a geifr.
22 Masnachwyr Sheba a Raama yn cynnig eu perlysiau gorau, meini gwerthfawr o bob math ac aur.
23 Roedd Haran, Canne ac Eden, a masnachwyr Sheba, Ashŵr a Cilmad yn gwsmeriaid i ti hefyd,
24 yn cynnig dillad costus, defnydd porffor, brodwaith a charpedi amryliw wedi eu clymu a'u plethu'n dynn.
25 Roedd llongau masnach mawr yn cludo dy nwyddau ar draws y moroedd.Roeddet fel llong wedi ei llwytho'n llawn,yng nghanol y moroedd.
26 Ond aeth dy rwyfwyr â tii ganol storm ar y môr mawr!Daeth gwynt y dwyrain i dy ddryllioyng nghanol y moroedd.
27 “‘Mae diwrnod dy ddryllio'n dod, a byddi'n suddo yng nghanol y môr, gyda dy gyfoeth i gyd, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy rwyfwyr, dy grefftwyr, dy fasnachwyr a dy filwyr – pawb sydd ar dy fwrdd.