27 “‘Mae diwrnod dy ddryllio'n dod, a byddi'n suddo yng nghanol y môr, gyda dy gyfoeth i gyd, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy rwyfwyr, dy grefftwyr, dy fasnachwyr a dy filwyr – pawb sydd ar dy fwrdd.
28 Bydd y morwyr yn gweiddines i gefn gwlad grynu.
29 Bydd rhwyfwyr a morwyryn gadael eu llongaui sefyll ar dir sych.
30 Byddan nhw'n galaru'n uchelac yn crïo'n chwerw;byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennauac yn rholio mewn lludw.
31 Byddan nhw'n siafio eu pennauac yn gwisgo sachliain.Byddan nhw'n wylo'n chwerwwrth alaru ar dy ôl.
32 Yn nadu canu cân o alarar dy ôl:“Pwy oedd fel Tyrus,fel tŵr yng nghanol y môr?”
33 Roedd dy nwyddau'ncael eu dadlwytho o'r moroedd,i gwrdd ag angen pobloedd.Roedd dy gyfoeth mawr a dy nwyddauyn cyfoethogi brenhinoeddi ben draw'r byd!