31 Byddan nhw'n siafio eu pennauac yn gwisgo sachliain.Byddan nhw'n wylo'n chwerwwrth alaru ar dy ôl.
32 Yn nadu canu cân o alarar dy ôl:“Pwy oedd fel Tyrus,fel tŵr yng nghanol y môr?”
33 Roedd dy nwyddau'ncael eu dadlwytho o'r moroedd,i gwrdd ag angen pobloedd.Roedd dy gyfoeth mawr a dy nwyddauyn cyfoethogi brenhinoeddi ben draw'r byd!
34 Ond bellach rwyt yn llong wedi ei dryllioyn gorwedd ar waelod y môr.Mae dy nwyddau a'r criw i gydwedi suddo a boddi gyda ti.
35 Mae pobl yr arfordir i gydwedi dychryn yn lân;brenhinoedd yn crynu mewn braw,a'r poen i'w weld ar eu hwynebau.
36 Mae masnachwyr y gwledyddyn chwibanu mewn rhyfeddod arnat.Roedd dy ddiwedd yn erchylla fydd dim sôn eto amdanat.’”