6 Dy rwyfau o goed derw Bashan,a dy gorff yn bren cypres o dde Cyprus,wedi ei addurno ag ifori.
7 Dy hwyl o liain main gorau'r Aifftwedi ei brodio'n batrymau,ac yn faner i bawb dy nabod.Y llen dros y dec yn borffor a phiws;defnydd o lannau Elisha.
8 Arweinwyr Sidon ac Arfadoedd dy rwyfwyr,a dynion medrus Tyrusyn forwyr wrth yr helm.
9 Roedd arweinwyr Gebal ar dy fwrddyn trwsio unrhyw niwed.Roedd y llongau i gyd a'u criwiauyn galw yn dy borthladdoeddi gyfnewid nwyddau.
10 Roedd dynion o wledydd pell –Persia, Lydia a Libia –yn filwyr yn dy fyddin.Yn hongian tarian a helmed ar dy waliau;ac yn rhoi i ti enw gwych.
11 “‘Roedd dynion Arfad a Helech yn gwarchod dy waliau, a dynion Gammad ar y tyrau amddiffynnol. Roedden nhw'n hongian eu cewyll saethau ar dy waliau, a gwneud dy harddwch yn berffaith.
12 “‘Roeddet ti'n masnachu gyda Tarshish bell, ac yn cyfnewid arian, haearn, tin a phlwm am dy nwyddau.