9 Roedd arweinwyr Gebal ar dy fwrddyn trwsio unrhyw niwed.Roedd y llongau i gyd a'u criwiauyn galw yn dy borthladdoeddi gyfnewid nwyddau.
10 Roedd dynion o wledydd pell –Persia, Lydia a Libia –yn filwyr yn dy fyddin.Yn hongian tarian a helmed ar dy waliau;ac yn rhoi i ti enw gwych.
11 “‘Roedd dynion Arfad a Helech yn gwarchod dy waliau, a dynion Gammad ar y tyrau amddiffynnol. Roedden nhw'n hongian eu cewyll saethau ar dy waliau, a gwneud dy harddwch yn berffaith.
12 “‘Roeddet ti'n masnachu gyda Tarshish bell, ac yn cyfnewid arian, haearn, tin a phlwm am dy nwyddau.
13 Roedd Iafan, Twbal a Meshech yn cyfnewid caethweision a nwyddau pres.
14 Beth-togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch a mulod.
15 Roeddet ti'n masnachu gyda phobl Rhodos, a llawer o ynysoedd eraill. Roedden nhw'n talu gydag ifori a choed eboni.