11 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
12 “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl brenin Tyrus. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Roeddet ti'n batrwm o berffeithrwydd!Mor ddoeth, ac yn rhyfeddol o hardd!
13 Roeddet ti'n byw yn Eden, gardd Duw.Roeddet wedi dy addurno gyda gemau gwerthfawr– rhuddem, topas, emrallt, saffir melyn,onics, iasbis, saffir, glasfaen, a beryl.Roedd y cwbl wedi eu gosod yn gywrain mewn aur pur,ac wedi eu cyflwyno i ti ar y diwrnod cest ti dy greu.
14 Roeddwn wedi dy osod ynogydag angel gwarcheidiol â'i adenydd ar led,ar y mynydd wnaeth Duw ei gysegru.Roeddet yn cerdded yng nghanol y gemau o dân.
15 O'r diwrnod y cest dy greu roeddet ti'n ymddwyn yn berffaith… ond yna cest dy ddal yn pechu.
16 Roedd yr holl fasnachu wedi dy droi yn dreisiol.Dyma ti'n pechu.Dyma fi'n dy yrru i ffwrdd o fynydd Duw.Roedd yr angel gwarcheidiol yn dy gadw draw o'r gemau o dân.
17 Roeddet wedi troi'n falch am dy fod mor hardd.Camddefnyddio dy ddoethineb am dy fod mor llawn ohonot dy hun.A dyna pam wnes i dy fwrw i lawr,a gwneud sioe ohonot ti o flaen brenhinoedd eraill.