3 Ti'n meddwl dy fod ti'n fwy doeth na Daniel! Does dim byd sy'n ddirgelwch i ti!
4 Ti wedi defnyddio dy graffter a dy glyfrwch i gael mwy o gyfoeth. Ti wedi casglu aur ac arian i dy goffrau.
5 Ti wedi defnyddio dy graffter masnachol i gael mwy o gyfoeth, ond mae dy gyfoeth wedi chwyddo dy ben.
6 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod yn meddwl dy fod ti'n dduw
7 dw i'n mynd i ddod â byddin o wlad estron yn dy erbyn di – y wlad fwya creulon sydd. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau ac yn taro dy glyfrwch rhyfeddol a difetha dy ysblander.
8 Byddi'n cael dy anfon i lawr i Bwll distryw ac yn marw'n greulon yng nghanol y môr.
9 Wyt ti'n mynd i ddal ati i honni dy fod yn dduw pan fyddi wyneb yn wyneb â'r rhai fydd yn dy ladd? Dyn meidrol fyddi di yn eu golwg nhw, nid duw!