1 Roedd hi ddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y deuddegfed diwrnod o'r degfed mis. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu'r Pharo, brenin yr Aifft, a proffwydo yn ei erbyn e a holl wlad yr Aifft.
3 Dyma rwyt ti i'w ddweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Dw i'n mynd i ddelio gyda ti!y Pharo, brenin yr Aifft;y ddraig fawr sy'n gorweddyng nghanol ei ffosydd.“Fi piau'r Afon Nil,” meddet ti,“a fi sydd wedi ei chreu hi.”
4 Bydda i'n rhoi bachyn yn dy ênac yn dy lusgo allan o'r dŵrgyda pysgod o'r ffosydd ynglynu wrth dy groen.