4 Bydda i'n rhoi bachyn yn dy ênac yn dy lusgo allan o'r dŵrgyda pysgod o'r ffosydd ynglynu wrth dy groen.
5 Bydda i'n dy daflu i'r anialwch,ti a physgod y ffosydd.Byddi'n gorwedd, heb dy gladdu,i farw ar dir agored –yn fwyd i'r anifeiliaid ac i'r adar.
6 Yna bydd pawb sy'n byw yn yr Aifftyn gweld mai fi ydy'r ARGLWYDD.Ti wedi bod yn ffon fagl wan fel brwyneni bobl Israel bwyso arni.
7 Dyma nhw'n gafael ynot ti,ond dyma ti'n torriac yn bwrw eu hysgwydd o'i lle.Wrth iddyn nhw bwyso arnat tidyma ti'n holltia gadael eu cluniau'n sigledig.
8 “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnat ti, a bydd yr holl bobl a'r anifeiliaid yn cael eu lladd.
9 Bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.“‘Am dy fod wedi dweud “Fi piau'r Afon Nil, a fi sydd wedi ei chreu hi,”
10 dw i'n mynd i ddelio gyda ti a dy ffosydd. Dw i'n mynd i droi gwlad yr Aifft yn anialwch diffaith yr holl ffordd o Migdol yn y gogledd i Aswan yn y de, sydd ar y ffin gydag Ethiopia.