10 “Felly, gwranda di'n ofalus ar bopeth dw i'n ddweud, a'i gymryd o ddifrif.
11 Dos at dy gydwladwyr, y bobl gafodd eu symud yma yn gaethion gyda ti. Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Dw i am i ti wneud hyn os ydyn nhw'n dewis gwrando neu beidio.”
12 Yna cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr. Clywais sŵn rymblan y tu ôl i mi wrth i ysblander yr ARGLWYDD godi o'i le.
13 Adenydd y creaduriaid byw oedd yn rhwbio yn erbyn ei gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hymyl yn troi. Roedd fel sŵn rymblan mawr.
14 Cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr, a'm cario i ffwrdd. Ro'n i'n teimlo'n flin ac yn llawn emosiwn. Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i ac roedd yn rheoli beth oedd yn digwydd i mi yn llwyr.
15 Dyma fi'n cyrraedd Tel-abib, sydd wrth ymyl Camlas Cebar. Bues i yno am wythnos, yn eistedd yn syfrdan yng nghanol y bobl oedd wedi cael eu caethgludo.
16 Yna ar ôl wythnos dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: