14 Cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr, a'm cario i ffwrdd. Ro'n i'n teimlo'n flin ac yn llawn emosiwn. Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i ac roedd yn rheoli beth oedd yn digwydd i mi yn llwyr.
15 Dyma fi'n cyrraedd Tel-abib, sydd wrth ymyl Camlas Cebar. Bues i yno am wythnos, yn eistedd yn syfrdan yng nghanol y bobl oedd wedi cael eu caethgludo.
16 Yna ar ôl wythnos dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:
17 “Ddyn, dw i'n dy benodi di yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti.
18 Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim wedi ei rybuddio a'i annog i newid ei ffyrdd a byw, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw.
19 Ond os byddi di wedi ei rybuddio, ac yntau wedi gwrthod newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun.
20 “Ar y llaw arall, os ydy rhywun sydd fel arfer yn gwneud beth sy'n iawn yn newid ei ffyrdd ac yn dechrau gwneud pethau drwg, bydda i'n achosi i rywbeth ddigwydd fydd yn gwneud i'r person hwnnw syrthio. Bydd e'n marw. Os na fyddi di wedi ei rybuddio bydd e'n marw am ei fod wedi pechu. Fydd y pethau da wnaeth e o'r blaen ddim yn cyfrif. A bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd.