2 Felly dyma fi'n agor fy ngheg, a dyma fe'n bwydo'r sgrôl i mi.
3 A dyma fe'n dweud, “Ddyn, llenwa dy fol gyda'r sgrôl yma dw i'n ei rhoi i ti.” A dyma fi'n ei bwyta. Roedd hi'n blasu'n felys fel mêl.
4 A dyma fe'n dweud wrtho i, “Ddyn, dos at bobl Israel a dweud beth ydy fy neges i iddyn nhw.
5 Dw i ddim yn dy anfon di at bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall. Pobl Israel ydyn nhw.
6 Petawn i'n dy anfon di at dyrfa o bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall, mae'n siŵr y byddai'r rheiny yn gwrando arnat ti!
7 Ond fydd pobl Israel ddim yn gwrando arnat ti, achos dŷn nhw ddim yn fodlon gwrando arna i. Maen nhw'n bobl ofnadwy o benstiff ac ystyfnig.
8 Felly dw i'n mynd i dy wneud di'r un mor benderfynol a penstiff ag ydyn nhw!