1 A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2 “Ddyn, proffwyda a dywed: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Uda, “O na! Mae'r diwrnod wedi dod!”
3 Ydy, mae'r diwrnod mawr yn agos;dydd barn yr ARGLWYDD!Diwrnod o gymylau duon bygythiol;amser anodd i'r gwledydd i gyd.
4 Mae byddin yn dod i ymosod ar yr Aiffta bydd teyrnas Cwsh mewn panigwrth weld pobl yr Aifft yn syrthio'n farw,cyfoeth y wlad yn cael ei gario i ffwrdda'i sylfeini'n cael eu dinistrio.