15 Bydda i'n tywallt fy llid ar gaer Pelwsiwm ac yn lladd holl filwyr Thebes.
16 Ydw dw i'n mynd i gynnau tân yn yr Aifft. Bydd Pelwsiwm yn gwingo mewn poen, Thebes yn cael ei thorri i lawr a Memffis yn dioddef trais diddiwedd.
17 Bydd milwyr ifanc Heliopolis a Bwbastis yn cael eu lladd, a'r bobl i gyd yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.
18 Bydd hi'n ddiwrnod tywyll ar Tachpanches pan fydda i'n dod â grym gwleidyddol yr Aifft i ben. Bydd ei balchder yn ei grym wedi darfod. Bydd cwmwl yn ei gorchuddio, a bydd ei merched yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.
19 Dw i'n mynd i farnu'r Aifft. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
20 Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y seithfed diwrnod o'r mis cyntaf, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:
21 “Ddyn, dw i wedi torri braich y Pharo, brenin yr Aifft. Dydy'r fraich ddim wedi cael ei rhwymo i roi cyfle iddi wella, ac felly fydd hi byth yn ddigon cryf i drin cleddyf eto.