22 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i ddelio gyda'r Pharo, brenin yr Aifft. Dw i'n mynd i dorri ei freichiau – y fraich gref, a'r un sydd eisoes wedi torri – a bydd ei gleddyf yn syrthio ar lawr.
23 Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd.
24 Ond bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ac yn rhoi fy nghleddyf i yn ei law. Bydda i'n torri breichiau'r Pharo, a bydd e'n griddfan mewn poen, fel dyn wedi ei anafu ac sydd ar fin marw.
25 Bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau'r Pharo yn llipa. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi rhoi'r cleddyf yn llaw brenin Babilon iddo ymosod ar wlad yr Aifft.
26 Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!”