3 Ydy, mae'r diwrnod mawr yn agos;dydd barn yr ARGLWYDD!Diwrnod o gymylau duon bygythiol;amser anodd i'r gwledydd i gyd.
4 Mae byddin yn dod i ymosod ar yr Aiffta bydd teyrnas Cwsh mewn panigwrth weld pobl yr Aifft yn syrthio'n farw,cyfoeth y wlad yn cael ei gario i ffwrdda'i sylfeini'n cael eu dinistrio.
5 “‘Bydd pobl o ddwyrain Affrica, Pwt, Lydia a Libia sy'n byw yn yr Aifft, a hyd yn oed pobl Israel sy'n byw yno yn cael eu lladd yn y rhyfel.’
6 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio.Bydd ei balchder yn ei grym yn chwilfriw!Bydd pawb yn cael eu lladd yn y brwydroyr holl ffordd o Migdol i Aswan.’”—y Meistr, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.
7 “‘Bydd yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion.
8 Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n cynnau tân yn yr Aifft ac yn sathru pawb sy'n ei chefnogi.
9 Pan fydd hynny'n digwydd bydda i'n anfon negeswyr mewn llongau i ddychryn pobl ddibryder teyrnas Cwsh. Pan glywan nhw beth sy'n digwydd i'r Aifft bydd panig yn dod drostyn nhw! Gwyliwch! Mae'n dod!’”