7 “‘Bydd yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion.
8 Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n cynnau tân yn yr Aifft ac yn sathru pawb sy'n ei chefnogi.
9 Pan fydd hynny'n digwydd bydda i'n anfon negeswyr mewn llongau i ddychryn pobl ddibryder teyrnas Cwsh. Pan glywan nhw beth sy'n digwydd i'r Aifft bydd panig yn dod drostyn nhw! Gwyliwch! Mae'n dod!’”
10 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddefnyddio Nebwchadnesar, brenin Babilon, i roi diwedd ar fyddin enfawr yr Aifft.
11 Bydd e a'i fyddin, byddin y wlad fwya creulon yn y byd, yn dod i lawr i ddinistrio'r Aifft. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau i ymosod, ac yn llenwi'r wlad gyda chyrff marw.
12 Bydda i'n sychu ei ffosydd, ac yn rhoi'r wlad yn nwylo dynion drwg. Bydda i'n defnyddio byddin estron i ddinistrio'r wlad a phopeth ynddi. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!
13 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio dy eilunod, a chael gwared â duwiau diwerth Memffis. Fydd neb ar ôl i arwain gwlad yr Aifft. Bydd dychryn drwy'r wlad i gyd.