Eseciel 31:12-18 BNET

12 Mae byddin estron y wlad fwya creulon wedi ei thorri i lawr a'i gadael i orwedd ar y mynyddoedd. Mae ei changhennau'n gorwedd ar chwâl yn y dyffrynnoedd a'r ceunentydd. Mae pawb oedd yn cysgodi oddi tani wedi ffoi pan gafodd ei thaflu i ffwrdd.

13 Mae'r adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, a'r anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau.

14 “‘Digwyddodd hyn i stopio i unrhyw goeden arall dyfu mor dal nes bod ei brigau uchaf yn y cymylau. Byddan nhw i gyd, fel pobl feidrol, yn marw yn nyfnder y ddaear. Byddan nhw'n ymuno gyda phawb arall sydd yn y Pwll.

15 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan aeth Asyria i lawr i'r bedd, roedd y dyfnder yn galaru amdani. Dyma fi'n dal yr afonydd yn ôl oddi wrthi. Gwisgais Libanus mewn du, a gwneud i'r coed eraill i gyd wywo.

16 Roedd y gwledydd i gyd yn crynu pan glywon nhw amdani'n syrthio, pan wnes i ei thaflu i lawr i fyd y meirw gyda pawb arall sydd yn y Pwll. Yn y byd tanddaearol cafodd coed Eden i gyd a'r gorau o goed Libanus, pob un oedd wedi cael digon o ddŵr, eu bodloni.

17 Roedd ei chefnogwyr i gyd (y gwledydd oedd wedi byw dan ei chysgod) wedi mynd i lawr i fyd y meirw gyda hi, i ymuno gyda pawb arall oedd wedi eu lladd gan y cleddyf.

18 “‘Pa un o goed Eden sydd unrhyw beth tebyg i ti? Ond byddi dithau'n cael dy fwrw i lawr i ddyfnder y ddaear gyda choed Eden. Byddi'n byw gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf!’ Dyna fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin enfawr,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.